Amdanom Ni

image

Rydym yn fusnes bach annibynnol sy’n darparu gwasanaethau angladdol syml a modern. Rydym ni’n credu bod dweud ffarwel wrth rhywun rydych chi wedi eu colli yn achlysur personol iawn a ddylai adlewyrchu y ffordd y bu iddynt fyw eu bywyd. Mae yna nifer o benderfyniadau i’w gwneud tra’n trefnu angladd, os ydych yn edrych am gladdedigaeth neu amlosgiad, angladd syml, cymorth i drefnu angladd yn y cartref, neu rywbeth gwahanol, rydym yma i helpu, beth bynnag yw’r cyllid. Mae ein gwasanaeth yn anelu i gadw pryder a chostau profedigaeth i’r lleiaf phosib. Rydym yn darparu yr hyn rydych chi ei eisiau a’i angen, ni fyddwn yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi nad yw’n angenrheidiol neu’n ddrud.

Roeddwn ni’n teimlo fod angladdau, dros y blynyddoedd wedi colli ymdeimlad dynol a cawsom ein hysbrydoli i ddod i mewn i’r diwydiant i gynnig angladdau fforddiadwy ond hyfryd. Er ein bod yn cydnabod ac yn parchu traddodiadau angladd, pan fyddwch yn ein cyfarfod gyntaf mae’n anhebygol iawn y byddwn yn gwisgo du. Rydym yn hoffi defnyddio eirch syml ac nid ydym ni’n berchen limosinau ond os hoffech chi wasanaeth angladd fwy traddodiadol gall rhain gael eu darparu i chi a gallwn addasu i gyfarfod eich holl anghenion.

Gallwn eich cefnogi bob cam o’r ffordd: o ddewis yr arch, blodau a cherddoriaeth i drefnu y gwasanaeth yn llawn ond gallwn hefyd gynnig cyngor yn unig er mwyn i chi allu dod o hyd i’r atebion eich hunain. Rydym yn ceisio lle bod modd i gynnig opsiynau ecolegol ac yn cadw yn glir o unrhyw draddodiadau a rheolau di-angen.

image
image

Ardal Weithredol

Rydym yn gyfarwyddwyr angladdau wedi ein lleoli yn Llanrug ger Caernarfon ac yn gweithio yn yr ardaloedd cyfagos.

Os ydych chi wedi eich lleoli y tu allan i’n ardal ni neu ddim yn sicr os ydym ni’n weithredol yn eich ardal chi yna rhowch alwad i ni, efallai y byddai modd i ni fod o gymorth.