Amlosgiad Uniongyrchol

image

Mae’r opsiwn yma yn gwahanu yr amlosgiad oddi wrth yr angladd. Mae’n cymryd y pwysau amser i ffwrdd ac yn golygu y gallwch arbed arian neu ei wario ar gofeb yn lle. Mae gennych wedyn yr amser a’r rhyddid i drefnu coffadwriaeth fel a lle dymunwch. Gall hyn fod ar y traeth, ar y mynydd, gartref, neu ddim o gwbl, mae i fyny i chi.

Gydag amlosgiad uniongyrchol, nid oes gwasanaeth yn yr amlosgfa. Rydym yn cludo’r corff i’r amlosgfa unai ym Mangor neu Fae Colwyn gan ddefnyddio slot buan yn y diwrnod. Bydd y llwch wedyn yn cael ei ddychwelyd i chi i wneud cofeb o’ch dewis chi.

Y ffi ar gyfer hyn yw £1,450 (gan gynnwys ffi amlosgfa)

Yn Cynnwys: