Angladdau Tirion

image

Angladd Tirion yw’r dewis os nad yw’r angladd draddodiadol, ddu, llawn siwtiau ddim yn gweddu i chi. Rydym yn defnyddio ein fan VW Transporter fel hers ac mae ein staff wedi gwisgo yn hamddenol ond parchus. Gall angladd Tirion gael ei gynnal ar dir claddu neu mewn amlosgfa yn Gwynedd, Conwy neu Ynys Môn.

Byddwn yn trefnu i gyfarfod gyda chi i drafod yr ymawadedig, ac i helpu trefnu angladd sydd yn addas i’r ffordd y bu iddynt fyw eu bywyd. Gallwn fod o gymorth i chi i drefnu cwrdd preifat o bobl neu ffarwel enfawr, gallwch gadw pethau yn syml neu drefnu i’r eithaf. Byddwn yn parhau mewn cysylltiad â chi drwy gydol yr amser ac ar gael pe tai gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon.

Amlosgiadau

Pris amlosgiad Tirion yn Amlosgfa Bangor neu Fae Colwyn ydi £1,750 gyda ffi amlosgfa yn ychwanegol (rhwng £586 - £772).

Yn cynnwys:

  • Eich cyfarfod yn eich cartref i drafod yr angladd ac i roi cymorth i chi gwblhau y gwaith papur
  • Casglu a gofalu am yr ymadawedig cyn yr amlosgiad
  • Paratoi yr ymadawedig ar gyfer yr amlosgiad
  • Arch dderw argaen neu arch gardfwrdd blaen frown
  • Ffi gwaith papur y meddyg ar gyfer yr amlosgiad
  • 2 berson i gario yr arch ar ddiwrnod y gwasanaeth(gall mwy gael eu darparu os oes angen am gost ychwanegol)
  • Bydd y llwch yn cael ei ddychwelyd o fewn radiws o 30 milltir
  • Trefnu a thalu y rhoddion.

Claddedigaethau

Pris claddedigaeth Tirion unrhywle o fewn radiws o 30 milltir yw £1,650 gyda ffi pryniant a pharatoi y bedd yn ychwanegol (prisiau yn amrywio ond yn cychwyn o £935).

Yn cynnwys:

  • Eich cyfarfod yn eich cartref i drafod yr angladd ac i roi cymorth i gwblhau y gwaith papur
  • Casglu a gofalu am yr ymadawedig cyn y gladdedigaeth.
  • Paratoi yr ymadawedig ar gyfer y gladdedigaeth
  • Arch dderw argaen neu arch gardfwrdd blaen frown
  • Ein gwasanaethau ar ddiwrnod yr angladd
  • 2 berson i gario yr arch ar ddiwrnod y gwasanaeth (gall mwy gael eu darparu os oes angen am gost ychwanegol)
  • Trefnu a thalu y rhoddion

Gellir ychwanegu’r opsiynau yma: