Angladdau Traddodiadol

image

I nifer o deuluoedd mae cysur i’w gael mewn angladd fwy traddodiadol, os mae hyn yn fwy addas i chi yna gallwn eich helpu i drefnu angladd sydd yn barchus a fforddiadwy.

Gyda’r opsiwn yma byddwn yn defnyddio hers draddodiadol.

Byddwn yn trefnu i’ch cyfarfod i drafod y person sydd wedi marw ac i’ch helpu i drefnu angladd sydd yn addas i’r ffordd y bu iddynt fyw eu bywyd.

Amlosgiad

Pris ein angladd Traddodiadol yn Amlosgfa Bangor, Bae Colwyn neu Llanelwy ydi £2100 gyda ffi amlosgfa yn ychwanegol (oddeutu £550 - £965).

Yn cynnwys:

  • Eich cyfarfod yn eich cartref i drafod yr angladd a rhoi cymorth i chi i gwblhau y gwaith papur
  • Casglu a gofalu am yr ymadawedig cyn yr angladd
  • Paratoi yr ymadawedig ar gyfer yr amlosgiad
  • Arch dderw argaen
  • Ffi gwaith papur y meddyg
  • 4 person i gario yr arch ar ddiwrnod y gwasanaeth (gall mwy gael eu darparu os oes angen, am gost ychwanegol)
  • Bydd yr ymadawedig yn cael eu cludo mewn hers ddu ar ddiwrnod yr angladd
  • Bydd y llwch yn cael ei ddychwelyd o fewn radiws o 30 milltir
  • Trefnu a thalu y rhoddion

Claddedigaethau

Pris ein claddedigaeth Traddodiadol o fewn radiws o 30 milltir yw £1,850 gyda ffi pryniant a pharatoi y bedd yn ychwanegol (prisiau yn amrywio ond cychwyn o £900)

Yn cynnwys:

  • Eich cyfarfod yn eich cartref i drafod yr angladd a rhoi cymorth i chi i gwblhau y gwaith papur
  • Casglu a gofalu am yr ymadawedig cyn yr angladd
  • Paratoi yr ymadawedig ar gyfer yr angladd
  • Arch dderw argaen
  • Ein gwasanaethau ar ddiwrnod yr angladd
  • 4 person i gario yr arch ar ddiwrnod y gwasanaeth (gall mwy gael eu darparu os oes angen, am gost ychwanegol)
  • Bydd yr ymadawedig yn cael eu cludo mewn hers ddu ar ddiwrnod yr angladd
  • Trefnu a thalu y rhoddion

Gellir ychwanegu’r opsiynau yma:


  • Trefn gwasanaeth safonol £50 fesul 30
  • Cyhoeddiad yn y papur newydd oddeutu £90
  • Offeiriad neu weinidog oddeutu £190
  • Organnydd o £60
  • Cyflwyniad o luniau yn arddangos ar y sgrin drwy gydol y gwasanaeth yn yr amlosgfa o £66
  • Gwe-ddarllediad o £50
  • Gall yr arch gael ei newid am bris ychwanegol – gweler galeri yr eirch (ar gael yn fuan)
  • Car teuluol ar gyfer galarwyr (o £220)
  • Os yw’r gwasanaeth yn cael ei gynnal yn rhywle arall o flaen llaw efallai bydd ffi ychwanegol