Gall y sgwrs gychwyn pryd bynnag rydych chi eisiau, rydym yn croesawu galwadau ffôn gan bobl sydd yn trefnu eu hangladdau eu hunain, gan fod rhywbeth hyfryd am gyfarfod ac adnabod person rydych chi’n mynd i fod yn trefnu angladd iddynt. Gallwch gael mewnbwn uniongyrchol ar sut yr hoffech chi eich angladd fod a gallwn glywed eich barn a’ch dewisiadau. Mae ganddom gynllun talu ymlaen llaw am yr angladd gyda’r Ethical Funeral Trust, pe dymunwch wneud hynny.
Os hoffech chi gynnal yr angladd eich hunain gallwn roi cyngor i chi.
Os ydych chi wedi colli rhywun ac eisiau i niwneud y trefniadau, rhowch alwad i ni ar unrhyw amser a gallwn gasglu corff yr ymadawedig. Ar y pwynt yma nid oes brys mawr i wneud unrhyw benderfyniadau ond mae yna ddau beth fydd angen i chi eu gwneud:
Ni allwn gofrestru’r farwolaeth ar eich rhan, bydd angen i aelod o’r teulu neu’r sawl sydd yn trefnu yr angladd gyda ni wneud hynny. Yn dilyn hyn byddwn yn cyfarfod efo chi er mwyn paratoi’r gwaith papur angenrheidiol a chychwyn y trefniadau. Ar y pwynt yma byddwn yn rhoi amcan bris i chi o’r costau. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad drwy gydol y broses a byddwn ar gael i ateb unrhyw gwestiwn neu bryderon sydd gennych.
Byddwn yn paratoi yr ymadawedig ar gyfer y gladdedigaeth neu’r amlosgiad, ble fyddwn ni’n gwneud cyn lleied sydd angen er mwyn gadael y corff mewn heddwch. Os hoffech ymweld â’r ymadawedig yna byddwn yn eu paratoi ar gyfer yr ymweliad. Rydym yn ceisio osgoi balmeiddio: os yw’r gladdedigaeth yn y Goedwig Dragwyddol mae wedi ei wahardd (oni bai am amgylchiadau penodol).
Cliciwch ar y tudalennau perthnasol i ddarganfod mwy o wybodaeth a phrisiau ar gladdedigaethau ac amlosgiadau.
© 2023 Hawlfraint Angladdau Tirion Funerals. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd.