Claddedigaeth Naturiol

image

Dyma gladdedigaeth yn nhir claddu naturiol yng Nghoedwig Dragwyddol Boduan, Pwllheli. Mae’n lecyn hyfryd, heddychlon ac yn wahanol iawn i fynwent gonfensiynol. Gellir cynnal yr angladd ymysg glöynnod byw ac adar bach, neu swn y gwynt yn suo yn y coed. Mae’r opsiwn yma yn eich galluogi i fod yn greadigol efo’r gwasanaeth ac i gymryd eich amser. Rydych chi’n dewis y safle, a wedyn yn rhydd o gonfensiwn, byddwn yn eich helpu i gynnal y seremoni fel rydych chi’n weld yn addas. Gallwn eich helpu chi,ynghyd a’ch teulu a ffrindiau, i arwain y seremoni neu gall offeiriad neu weinidog ei gynnal, am bris ychwanegol. Gallwch ddod a’ch cerddoriaeth eich hunain, cael rhywun i ganu offeryn neu hyd yn oed gael côr yno i ganu: gallwn awgrymu côr cymunedol da. Cludir yr arch gan gert at ochr y bedd. Gallwn eich helpu chi gymaint a’r angen i drefnu diwrnod hyfryd.

Ein ffi ar gyfer claddedigaeth ym Moduan yw £1350 a ffi claddu (£935 ar hyn o bryd).

Noder: Mae’r Goedwig Dragwyddol yn elusen gofrestredig ac yn gofyn am rodd ar gyfer pob claddedigaeth er mwyn gallu cynnal a chadw y goedwig a bydd hyn yn ychwanegol i’n ffi a rhestrir. Y rhodd awgrymir yw £450 ac nid yw’n orfodol, Mae'r elusen yn hapus i weithio gyda'r hyn allwch chi ei fforddio.

 

Yn cynnwys:


Gellir ychwanegu’r opsiynau yma: