Opsiynau Syml Ac i Arbed Arian

image

Weithiau mae rhai eisiau llai o ffys, unai am resymau chwaeth neu ariannol. Mae’r opsiwn yma ar gyfer angladd symlach gyda mewnbwn cyfyngedig gennym ni.

Cesglir yr ymadawedig a’u gosod mewn arch syml a’i cludo i Gapel Gorffwys, ble bydd cyfleon cyfyngedig i ymweld.

Byddwch wedyn yn trefnu y gwasanaeth eich hunain, fodd bynnag byddwn ni yno i roi cefnogaeth i chi petai gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon.

Bydd rhaid i’r opsiynau yma gael eu talu amdanynt cyn i’r angladd ddigwydd, os yn talu gyda siec bydd rhaid ei chyflwyno 3 diwrnod cyn yr angladd.

Amlosgiad

Pris yr opsiwn yma yw £1,800 (gan gynnwys ffi amlosgfa) yn Amlosgfa Bae Colwyn gan ddefnyddio yr apwyntiadau cynnar.

Mae’r gwasanaeth yma yn darparu amlosgiad syml ond urddasol. Bydd yr arch yn cael ei gosod yng nghapel yr amlosgfa cyn i’ch gwesteion gyrraedd.

Yn cynnwys:

  • Eich cyfarfod chi yn eich cartref i drafod yr angladd a rhoi cymorth i chi i gwblhau y gwaith papur
  • Casglu a gofalu am yr ymadawedig cyn yr angladd
  • Arch dderw argaen
  • Ffi gwaith papur y meddyg
  • Defnydd o’r capel gorffwys i eistedd gyda arch gaeedig, yn ystod oriau swyddfa arferol.
  • Cludo yr ymadawedig ar ddiwrnod yr angladd
  • Bydd y llwch yn cael ei ddychwelyd ofewn radiws o 30 milltir

Claddedigaethau

Mae claddedigaeth syml yn gladdedigaeth naturiol yn Boduan, Pwllheli, y gost yw £2,200 (gan gynnwys pryniant a pharatoi y bedd).

Mae’r gwasanaeth yma yn darparu claddedigaeth syml ond urddasol. Bydd yr arch yn cael ei gosod ar y bedd a bydd staff Tiron yn gadael yr ardal cyn i’ch gwesteion gyrraedd.

Noder: Mae’r Goedwig Dragwyddol yn elusen gofrestredig ac yn gofyn am rodd ar gyfer pob claddedigaeth er mwyn gallu cynnal a chadw y goedwig a bydd hyn yn ychwanegol i’n ffi a rhestrir. Y rhodd awgrymir yw £450 ond nid yw’n orfodol, mae'r elusen yn hapus i weithio gyda'r hyn allwch chi ei fforddio.

Yn cynnwys:

  • Eich cyfarfod yn eich cartref i drafod yr angadd a rhoi cymorth i chi i gwblhau y gwaith papur.
  • Casglu a gofalu am yr ymadawedig cyn yr angladd
  • Arch gardfwrdd
  • Defnydd o’r Capel Gorffwys i eistedd gyda arch gaeedig, yn ystod oriau swyddfa arferol.
  • Paratoi’r bedd
  • Ein gwasanaethau ar ddiwrnod yr angladd
  • Cludiant o’r corff ar ddiwrnod yr angladd